Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd/ Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
16 Medi 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Ar ôl
ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, penderfynodd y Llywydd bod
Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu
pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.
Dywedodd y Llywydd hefyd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod
y cyhoedd wedi cael eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod
Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd.
Byddai'r cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a byddai
cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd
arferol.
1 Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
3 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Cyfyngiadau coronafeirws lleol ym Mwdeistref Caerffili a Rhondda Cynon Taf
(45 munud)
4 Cwestiynau Amserol
(0 munud)
Ni dderbynniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.
5 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru
(5 munud)
NDM7374 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â pharagraff 5(1) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, ac o dan Reol Sefydlog 10.5:
Yn penodi Lindsay Foyster yn Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru o 17 Hydref 2020 tan 15 Mawrth 2023.
Noder: Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Benodi Cadeirydd ac Aelodau Anweithredol Swyddfa Archwilio Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Medi 2020.
Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013
7 Cynnig i sefydlu pwyllgor o dan Reol Sefydlog 16.3: Pwyllgor y Llywydd - TYNNWYD YN ÔL
(5 munud)
NDM7375 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3:
yn sefydlu Pwyllgor y Llywydd i gyflawni’r swyddogaethau a nodir yn Rheol Sefydlog 18B.2.
8 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Budd-daliadau yng Nghymru - opsiynau i'w cyflawni'n well
(60 munud)
NDM7373 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Budd-daliadau yng Nghymru - opsiynau i'w cyflawni'n well', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Hydref 2019.
Noder: Gosodwyd ymatebion Llywodraeth Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Rhagfyr 2019 a 9 Medi 2020.
9 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Mesurau i Atal COVID-19
(60 munud)
NDM7376 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ymestyn y defnydd gorfodol o orchuddion wyneb i gynnwys meysydd awyr, siopau, archfarchnadoedd, canolfannau siopa, ysbytai a lleoliadau gofal iechyd eraill;
b) defnyddio cyfyngiadau coronafeirws lleol mewn ymateb i gynnydd sylweddol mewn cyfraddau heintio Covid-19 mewn modd cymesur er mwyn osgoi gosod cyfyngiadau symud llawn ar Gymru gyfan;
c) ei gwneud yn ofynnol i bob teithiwr sy'n dod i mewn i Gymru o dramor gael prawf Covid-19 wrth gyrraedd Maes Awyr Caerdydd.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu is-bwynt (a).
Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)
Dileu is-bwynt (c) a rhoi yn ei le:
'Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu effeithiolrwydd mesurau i gynnwys lledaeniad COVID-19 mewn perthynas â theithio rhyngwladol hyd yma ac i weithredu unrhyw wersi a ddysgwyd.'
[Os derbynnir Gwelliant 2, bydd Gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 3 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu is-bwynt (c) a rhoi yn ei le 'profi pobl sy’n dychwelyd i Gymru o wledydd nad ydynt wedi’u heithrio sydd â chyfraddau uwch o COVID-19 na Chymru, yn unol â’r cyngor cyfredol gan y Grŵp Cyngor Technegol'.
Gwelliant 4 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau llety i alluogi teithwyr a'r rhai nad oes ganddynt y cyfleusterau i fod dan gwarantin ar eu pen eu hunain.
Gwelliant 5 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud gorchuddion wyneb yn orfodol mewn ardaloedd cymunedol mewn lleoliadau addysg penodol.
Gwelliant 6 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun COVID-19 newydd i Gymru i ddarparu dull cyfannol o ymdrin â'r pandemig yn ystod y cyfnod nesaf.
Gwelliant 7 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ar frys â phroblemau yn y drefn brofi bresennol ac i weithio tuag at gyflwyno profion dyddiol torfol.
Gwelliant 8 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio'r syniad o ddefnyddio ‘cyfyngiadau symud clyfar' wrth ymateb i glystyrau lleol, gan ddefnyddio cyfyngiadau mewn ardaloedd mor lleol â phosibl.
10 Dadl Plaid Brexit - Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig
(60 munud)
NDM7372 Mark Reckless (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn croesawu Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig.
Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn croesawu rhai rhannau o Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig sy'n dychwelyd, yn briodol, bwerau pwysig o'r UE i'r DU.
[Os derbynnir Gwelliant 1, bydd Gwelliannau 2 a 3 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
Yn credu bod Bil y Farchnad Fewnol, Llywodraeth y DU gyfystyr ag ymosodiad ar y setliad datganoli a fyddai, pe bai’n cael ei ddeddfu, yn tanseilio pwerau’r Senedd i ddiogelu a hyrwyddo buddiannau pobl Cymru.
[Os derbynnir Gwelliant 2, bydd Gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 3 Sian Gwenllian (Arfon)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd yn cytuno bod Bil Marchnad Fewnol Llywodraeth y DU yn ymosodiad uniongyrchol ar genedligrwydd a democratiaeth yng Nghymru.
Gwelliant 4 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd at ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y rhannau hynny o Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig sy'n cynnig datganoli pwerau ymhellach i'r Senedd a Llywodraeth Cymru oherwydd, ar sail tystiolaeth yr 20 mlynedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru yn debygol o'u defnyddio i gynyddu rheoleiddio, cyfyngu ar ryddid a thanseilio cystadleurwydd economi Cymru.
Gwelliant 5 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylid dileu'r Senedd, fel rhan o gynllun ehangach i unioni canlyniadau anfoddhaol datganoli drwy, yn benodol, ddemocrateiddio'r GIG a chreu mwy o ymreolaeth leol mewn addysg, ac wrth gadw elfennau Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig sy'n helpu i ddychwelyd pwerau, yn briodol, o'r UE i'r DU.
Gwelliant 6 Gareth Bennett (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu na ddylai'r pwerau a gaiff eu dychwelyd gan Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig gael eu datganoli i Gymru o ystyried sut y mae Llywodraeth Cymru a'r Senedd wedi methu mewn perthynas â'r pwerau datganoledig presennol sydd ganddynt.
Gwelliant 7 Gareth Bennett (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am refferendwm cyfrwymol ynghylch a ddylid cadw neu ddiddymu llywodraeth a senedd datganoledig Cymru, yn sgil amcanion arfaethedig Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig.
Gwelliant 8 Sian Gwenllian (Arfon)
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio annibyniaeth er mwyn diogelu democratiaeth yng Nghymru yn sgil Bil Marchnad Fewnol Llywodraeth y DU.
11 Cyfnod pleidleisio
Crynodeb o Bleidleisiau
12 Dadl Fer
(30 munud)
NDM7371 David Melding (Canol De Cymru)
Yr angen am gronfa diogelwch tân yng Nghymru i gynnig cymorth i lesddeiliaid.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 22 Medi 2020.